Y PWYLLGOR IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL

Sesiwn Craffu Cyffredinol – y Prif Swyddog Nyrsio (CNO)

 

Dyddiad: 30 Ionawr 2013

Lleoliad: Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Teitl: Sesiwn Craffu Cyffredinol

Diben

 

1.     Fel rhan o raglen y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol o graffu ar weithwyr proffesiynol iechyd, mae’r Athro Jean White, y Prif Swyddog Nyrsio, wedi cael ei gwahodd i fynychu’r Pwyllgor ar 30 Ionawr i drafod y meysydd blaenoriaeth o fewn ei chylch gwaith er mwyn ystyried unrhyw waith posibl yn y dyfodol gan y Pwyllgor ynglŷn â nyrsio. Mae’r Pwyllgor wedi gofyn am ddiweddariad ar waith penodol o dan arweiniad y Prif Swyddog Nyrsio a’i thîm er mwyn sicrhau lefelau staffio addas o nyrsys mewn ysbytai a lleoliadau eraill.

 

2.     Mae’r papur hwn yn rhoi braslun cyffredinol o’r meysydd gwaith blaenoriaeth a ddilynir gan y Gyfarwyddiaeth Nyrsio naill ai ar hyn o bryd neu sydd wedi’i gynllunio ar gyfer y flwyddyn ariannol 2014/15.  

 

Meysydd Gwaith Blaenoriaeth y Gyfarwyddiaeth Nyrsio

 

3.     Safonau Gofal Iechyd/Hanfodion Gofal

 

Fel ymateb i Ymchwiliad Francis, mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi gwneud ymrwymiad i adolygu’r Safonau Gofal Iechyd yng Nghymru (2010) a’r polisi Hanfodion Gofal (2003). Bydd y gwaith yn cyflawni set unedig o safonau i bobl ar draws echyd ac mewn partneriaeth â gofal cymdeithasol. Bydd y safonau’n cael eu creu i alluogi Llywodraeth Cymru i fonitro perfformiad a safon y gwasanaethau a ddarperir ar sail dull sy’n seiliedig ar ganlyniadau cyson. Bydd y safonau’n cael eu cysoni â safonau ansawdd proffesiynol, safonau Colegau Brenhinol a safonau NICE, yn ogystal â Fframweithiau Gwasanaeth Cenedlaethol, safonau Canser Cenedlaethol a safonau cyfwerth, a gofynion rheoleiddio ac achredu eraill. Bydd y prosiect yn cychwyn ym mis Ionawr 2014 i’w gwblhau ym misoedd Ebrill/Mai 2015.

 

       Cafodd y dull Archwilio Hanfodion Gofal ei adolygu yn 2013 a chafodd ei ddefnyddio i gasglu data archwilio 2013 gan nifer estynedig o feysydd clinigol. Disgwylir adroddiadau’r Bwrdd sy’n codi o gylch archwiliadau 2013 ym mis Mawrth 2014. Bydd y canfyddiadau o’r cylch hwn o archwiliadau’n cael eu hadolygu a bydd themâu neu feysydd sy’n peri pryder yn llywio gwaith cenedlaethol yn y dyfodol. Mewn blynyddoedd blaenorol mae hyn wedi arwain at waith cenedlaethol, ee ar iechyd a hylendid geneuol, a gofal traed, ewinedd a gwallt.


4.    Gofal Nyrsio yn y Sector Cartrefi Gofal

 

       Mae prosiect cydweithredol ar y gweill ar hyn o bryd i ddatblygu rhaglen o arolygiadau mewn partneriaeth ag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC), Byrddau Iechyd, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) a Chynghorau Iechyd Cymuned a fydd yn:

 

·      Rhoi sicrwydd i AGGCC/AGIC/Byrddau Iechyd (a thrwy hynny, y cyhoedd) ynghylch ansawdd gofal nyrsio o safbwynt cyflawni hanfodion gofal.

·      Gwirio bod prosesau arolygu newydd AGGCC yn sensitif i fethiannau yn y safonau hanfodol gofal ac adnabod ffyrdd o wella arolygiadau.

·      Deall proffil ansawdd y gofal a ddarperir, ac yn bwysig, deall graddfa a natur risg o fewn y sector.

·      Tynnu sylw at yr arferion gorau.

·      Deall beth sy’n gyrru arferion da, y rhwystrau i wella a’r achosion sy’n arwain at ofal anfoddhaol.

·      Cydweithio’n agos a chyd-drafod gyda Grŵp Llywio Hanfodion Gofal Cymru Gyfan.

 

5.     Profiad Defnyddwyr Gwasanaethau

 

Sefydlwyd grŵp amlddisgyblaethol, Grŵp Cenedlaethol Profiad Defnyddwyr Gwasanaethau, ym mis Hydref 2012 er mwyn datblygu fframwaith i fesur barn a phrofiadau defnyddwyr gwasanaethau ac adrodd arnynt, ac i ddysgu sut y defnyddir yr wybodaeth hon i lywio a gwella’r gwasanaethau a gyflawnir. Mae’r grŵp hwn yn adrodd i’r Prif Swyddog Nyrsio.

 

     Cafodd y Fframwaith ei gyflwyno’n ffurfiol i Gadeiryddion sefydliadau’r GIG gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ym mis Mai 2013. Mae’n nodi egwyddorion craidd a ddylai fod yn sail i waith ar brofiadau cleifion ac mae’n pennu tair thema o brofiad defnyddwyr gwasanaethau:

 

·      Argraffiadau cyntaf ac argraffiadau parhaol, gan gynnwys urddas a pharch

·      Amgylchedd diogel, cefnogol

·      Cael eu cynnwys mewn gofal a’u dealltwriaeth ohono

 

     Mae’r Grŵp hefyd wedi datblygu set o gwestiynau craidd i sefydliadau eu defnyddio i asesu profiad defnyddwyr gwasanaethau fel rhan o’r Fframwaith. Cyflwynwyd y cwestiynau craidd i sefydliadau’r GIG yng Ngorffennaf 2013 a chyflwynwyd yr adroddiadau cyntaf ym mis Medi. Roedd amrywiad amlwg yn yr amrediad o wybodaeth a ddarparwyd, a oedd yn ei gwneud hi’n anodd penderfynu’n llawn y defnydd a wnaed o’r cwestiynau craidd ac unrhyw welliannau yn eu sgil i wasanaethau ledled Cymru. Gwnaed cais am ail gylch o ddata ar gyfer Ionawr 2014.

 

Mae’r Grŵp Cenedlaethol Profiad Defnyddwyr Gwasanaethau wedi cytuno ar y tair prif flaenoriaeth ganlynol am 2014-15:

 

·      Rhannu canlyniadau cwestiynau craidd ac adroddiadau’r bwrdd er mwyn hyrwyddo cysondeb ac ansawdd casglu, dadansoddi ac adrodd.

·      Datblygu templedi a dulliau adrodd i fesur adborth cleifion o bob ffynhonnell, gan gynnwys cwynion ac adnabod gwelliannau

·      Gweithio i ddatblygu dulliau ar gyfer:

o   Plant a phobl ifanc

o   Iechyd Meddwl

o   Pobl ag anawsterau cyfathrebu.

 

6.    Ymarfer Uwch

 

       Mae rolau ymarfer uwch yn allweddol wrth ddatblygu ffyrdd newydd o gyflwyno gwasanaethau a defnyddio sgiliau llawn y staff. Mae’r Llywodraeth eisoes wedi cefnogi’r rolau hyn trwy ddatblygu fframwaith ar gyfer ymarfer uwch a chanllawiau ar ddatblygu portffolio i helpu staff a’u cyflogwyr i benderfynu a ydynt yn ymarfer ar lefel uwch. Mae prosiect ymchwil presennol, wedi ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, yn cael ei gyflawni gan gymrawd ymchwil gweithlu (o Brifysgol Caerdydd) y Gwasanaeth Datblygu Addysg Gweithlu (WEDS), i archwilio Ymarferwyr Uwch yn y GIG yng Nghymru, a’r ffordd y cânt eu paratoi a’r goruchwyliaeth clinigol ohonynt. Disgwylir canfyddiadau’r ymchwil hwn yn 2014 a chaiff y rhain eu hystyried gan y Prif Swyddog Nyrsio.

 

Yn y flwyddyn academaidd 2013/14, comisiynodd y Gwasanaeth Datblygu Addysg Gweithlu 68 o raglenni lefel meistr a 211 o fodiwlau clinigol lefel meistr yn y meysydd canlynol: meddygaeth argyfwng, gofal heb ei drefnu, newyddanedigol a pharafeddygon. Hwn oedd y tro cyntaf i gyllid y llywodraeth ganolg gael ei ddefnyddio. Y gyllideb ar gyfer eleni yw £250,000.

 

7.    Nyrsio Anableddau Dysgu

 

       Mae Prif Swyddogion Nyrsio’r Deyrnas Unedig wedi cychwyn rhaglen foderneiddio nyrsio anableddau dysgu ledled y DU, a fydd yn rhedeg tan 2015. Mae Cymru’n chwarae rhan bwysig yn y gwaith datblygu a nodir yn y ddogfen ‘Modernising Learning Disability Nursing - Strengthening the Commitment’.

 

       Cyd-gynhyrchwyd y Bwndel Gofal Anableddau Dysgu gan ddefnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr a chlinigwyr ac fe’i lansiwyd yn y Senedd ar 13 Ionawr 2013. Mae nodi camau allweddol i’w cymryd i sicrhau bod pawb sydd ag anabledd dysgu’n gallu cael gofal urddasol wedi’i ganoli ar y person, a hynny o fewn lleoliadau cyffredinol gofal iechyd acíwt.

 

Bydd y bwndel yn cael ei gyflwyno o dan y gwasanaeth gwella, 1000 o Fywydau a Mwy, ac mae’n nodi camau allweddol i sicrhau:

o   Bod cleifion sydd ag anabledd dysgu’n cael eu hadnabod yn gynnar

o   Cyfathrebu effeithiol gyda chleifion, gofalwyr, aelodau o’r teulu a chlinigwyr

o   Gofal wedi’i ganoli ar y claf

o   Adolygu effeithiol a chynllunio ar gyfer rhyddhau

 

Yn dilyn y gwaith treialu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, bydd y Bwndel Gofal yn awr yn cael ei gyflwyno’n raddol ledled Cymru. Mae unigolyn penodol wedi cael ei adnabod ym mhob bwrdd iechyd i eirioli’r gwaith o gyflwyno’r Bwndel Gofal.

 

Ar 14 Ionawr, cynhaliwyd digwyddiad i randdeiliaid er mwyn ystyried beth arall sydd angen ei wneud i wella gofal pobl ag anabledd dysgu mewn ysbytai. Ymysg y pethau sy’n cael eu hystyried mae:

 

o    Cyflwyno pasbortau iechyd

o    Defnyddio dyfais adnabod ar gyfer cleifion ag anabledd dysgu, tebyg i’r symbol glöyn byw a ddefnyddir mewn rhai ysbytai ar gyfer cleifion â dementia.

 

       Un o’r ffrydiau gwaith sy’n cael eu datblygu gan y Grŵp Ymgynghorol Anabledd Dysgu yw ystyried penderfynyddion cymdeithasol iechyd ac anghydraddoldebau iechyd pobl ag anabledd dysgu. Ni phenderfynwyd eto beth fydd y gweithgaredd penodol yn ymwneud â hyn.

 

8.    Adolygiad Ymwelwyr Iechyd

 

       Yn dilyn adolygiad o wasanaethau ymwelwyr iechyd yn 2012/13, mae’r Prif Swyddog Nyrsio’n arwaith y gwaith o weithredu’r argymhellion o’r adolygiad trwy grŵp Cymru gyfan o randdeiliaid. Mae’r gwaith hwn bron â chael ei gwblhau ac mae’n cynnwys:

 

o   Datblygu Rhaglen Plant Iach Cymru gyfan y bydd cadw gwyliadwriaeth ar iechyd plant yn elfen ohoni.

o   Dull asesu cyffredin i Gymru gyfan ar gyfer Ymwelwyr Iechyd a’u timau.

o   Cofnod Iechyd Plentyn a Ddelir gan Rieni, ar gyfer Cymru Gyfan.

o   Adolygiad o systemau TG gyda chynllun mwy hirdymor i gyflwyno cofnodion electronig.

o   Datblygu dull addas ar gyfer staffio a gweithluoedd a fydd yn cyflwyno gwasanaethau Ymwelwyr Iechyd diogel ac effeithiol, a fydd yn seiliedig ar broffilio llwythi gwaith a llwythi achosion.

o   Darparu lefelau addas o hyfforddiant diogelu a goruchwylio clinigol i’r holl Ymwelwyr Iechyd a’u timau.

 

9.    Nyrsio Ysgolion

 

Er mwyn cefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau nyrsio ysgolion sy’n hyrwyddo a gwella iechyd a lle plant a phobl ifanc mewn oed ysgol, mae dulliau o fesur perfformiad wedi cael eu datblygu mewn cydweithrediad â grŵp o Nyrsys Ysgolion. Yn dilyn ymgynghori gyda grŵp ehangach o randdeiliaid yn ystod misoedd Chwefror a Mawrth 2014, fe fydd trafodaeth yn digwydd gyda Chyfarwyddwyr Nyrsio Byrddau Iechyd ynghylch sut y gellir defnyddio’r dulliau hyn o fesur perfformiad i sicrhau datblygiad a gwelliant parhaus gwasanaethau.

 

Cafodd ymrwymiad i ddarpariaeth gyffredinol o nyrsio iechyd cyhoeddus i bob plentyn oed ysgol ei sefydlu yn ymrwymiad maniffesto Cymru’n Un yn 2009. Er bod yr ymrwymiad i blant a oedd wedi cael eu hadnabod fel rhai ag anghenion arbennig ac a oedd yn cael eu haddysgu mewn ysgolion uwchradd gwladol, ni wnaed unrhyw gyfeiriad at blant a addysgir mewn ysgolion arbennig. Oherwydd hyn comisiynwyd arolwg o anghenion iechyd plant mewn ysgolion arbennig yng Nghymru gan y Prif Swyddog Nyrsio ym mis Mehefin 2013 ac fe’i cwblhawyd ym mis Tachwedd 2013. Rydym bellach yn disgwyl am benderfyniad y Gweinidog ar y camau nesaf ar gyfer gweithredu’r argymhellion.

 

10.  Ailddilysu

 

       Mae’n ofynnol i’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC) gyflwyno rhyw ffurf o ailddilysu i nyrsys a bydwragedd erbyn mis Rhagfyr 2015. Mae’r cynigion yn awgrymu y bydd hyn yn newid sylweddol i’r gofynion ailgofrestru presennol.

 

Mae swyddfa’r Prif Swyddog Nyrsio’n cyd-drafod gyda’r grwpiau rhanddeiliaid a sefydlwyd gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth i gyflawni’r prosiect hwn ac mae’n cynnig persbectif Cymreig i’r trafodaethau hyn. Mae rheoleiddio nyrsys a bydwragedd yn dal i fod yn fater heb ei ddatganoli. Mae’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth wrthi ar hyn o bryd yn ymgynghori ar y dull y mae’n ei gynnig ar gyfer ailddilysu, sy’n cynnwys rhyw ffurf o gadarnhad gan drydydd parti ynghylch cymhwysedd nyrs neu fydwraig i aros ar gofrestr y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.

 

11. Heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd

 

       Cyfarwyddwyr Nyrsio sy’n arwain y gwaith o atal a rheoli heintiau o fewn sefydliadau’r GIG ond cydnabyddir a deellir bod dileu heintiau’n ‘fusnes pawb’. Ym mis Rhagfyr 2013 cyfarfu Tîm Cymru i ganolbwyntio’n gyfan gwbl ar heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd a’r heriau sydd o’n blaenau. Dros y 10 mlynedd ddiwethaf mae lleihad sylweddol wedi bod mewn heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd ledled Cymru, ond mae angen inni fynd ymhellach ac yn gyflymach wrth sylweddoli nad mater gofal eilaidd yn unig yw heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd, ond un sy’n ymestyn ar draws pob amgylchedd gofal iechyd.

 

Yn 2014 bydd swyddfa’r Prif Swyddog Nyrsio, ynghyd â chydweithwyr polisi’n gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Byrddau Iechyd ar y canlynol:

o   Datblygu a chyhoeddi ‘cod hylendid’ (teitl gwaith) i’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, cod sy’n set o safonau craidd hanfodol er mwyn gwella’r ffordd o atal a rheoli heintiau, y byddwn yn disgwyl i bob sefydliad gofal iechyd ledled Cymru eu mabwysiadu a’u gweithredu’n llawn

o   Gwella hyfforddiant ac addysg mewn atal a rheoli heintiau o safbwynt y graddau y mae ar gael a’r nifer sy’n ei dderbyn. Fe fydd hyn yn cynnwys lansio modiwl e-ddysgu newydd – a fydd yn hygyrch i bawb o’r staff, nid staff nyrsio yn unig.

o   Cyhoeddi canllawiau newydd mewn atal a rheoli heintiau ar gyfer cartrefi gofal

o   Mabwysiadu dulliau o fesur llwyddiant – targedau Haen 1 sy’n ymwneud â lleihau heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd ar draws poblogaeth y Bwrdd Iechyd (mae ‘targedau’ blaenorol wedi canolbwyntio ar leihad mewn cleifion mewnol) a datblygu ymhellach ddangosyddion sy’n ymwneud ag atal a rheoli heintiau o fewn y metrigau nyrsio a’r dangosfwrdd nyrsio

o   Mabwysiadu dull safonedig o ddadansoddi gwraidd heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd a datblygu dull dadansoddi gwraidd y broblem ar gyfer Cymru gyfan

o   Cyflwyno’n raddol y mentrau 1000 o fywydau sy’n ymwneud â heintiau cysylltiedig â gofal iechyd, megis yr ymgyrch ‘STOP’

o   Hyrwyddo a monitro’r graddau y caiff pecynnau gofal heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd eu mabwysiadu’n eang

o   Datblygu systemau mwy trwyadl a dibynadwy ar gyfer cadw gwyliadwriaeth – hwyluso mabwysiadu systemau TG i wella’r ffordd y cesglir data ac adborth i glinigwyr a gwyliadwriaeth genedlaethol

 

12. Fframwaith Cysoni Sgiliau Nyrsio

 

Yn aml, mae gan gleifion anghenion iechyd cymhleth ac mae’n hanfodol sicrhau bod gan y staff nyrsio’r sgiliau a’r gallu i ddiwallu eu hanghenion. Ym mis Gorffennaf 2012, cytunodd y Prif Nyrs a Nyrsys Gweithredol Cymru ar gynllun gwaith ac iddo’r amcan y bydd gan nyrsys y gallu i adnabod a gofal am y cleifion hynny o fewn eu meysydd clinigol a all fod ag anghenion penodol ychwanegol heb yr angen i’w trosglwyddo hwy ar y cychwyn i’r maes arbenigol perthnasol ee claf diabetig o fewn lleoliad iechyd meddwl, neu glaf gyda dementia mewn lleoliad gofal acíwt.

 

Mae’r gwaith hwn wedi creu Fframwaith Llywodraethu Cymru Gyfan ar gyfer Cysoni Sgiliau Nyrsio i bob nyrs gofrestredig yng Nghymru. Mae’r fframwaith hwn yn gosod cylcch Datblygiad Proffesiynol Parhaus strwythuredig sy’n galluogi i gynllunio strategol ddigwydd, ac sy’n adnabod anghenion sgiliau personol trosglwyddadwy. Defnyddir enghreifftiau o fewn y fframwaith i amlygu lle a sut y gellir defnyddio hyn.

 

I gefnogi’r fframwaith mae’r cynllun gwaith wedi datblygu porffolio hefyd, i’r staff ei ddefnyddio. Gellir defnyddio’r portffolio fel cyfrwng ar gyfer integreiddio ymarfer, goruchwylio, mentora, adolygu gan gymheiriaid, myfyrio ac adolygu perfformiad. Unwaith eto, er mai portffolio generig yw hwn, mae disgwyliad mai angen cleifion lleol fydd yn symbylu’r sgiliau personol trosglwyddadwy angenrheidiol.

 

Mae’r gwaith ar gyfer 2014 yn cynnwys cwblhau canllawiau ac egwyddorion ar fentora, praeseptoriaeth a modelau cylchdroi a chyflwyno’r fframwaith yn raddol.

 

13. Fframwaith Gyrfa Ôl-gofrestru i Nyrsio yng Nghymru

 

Yn 2013 cafodd Fframwaith Gyrfa Ôl-gofrestru i Nyrsio Llywodraeth Cymru (2009) ei adolygu. Roedd yr adolygiad yn cynnwys nifer o grwpiau ffocws yn ogystal â holiadur i staff rheng flaen a rheolwyr o bob rhan o Gymru. Mae argymhellion o’r adolygiad hwn wrthi’n cael eu hystyried ar hyn o bryd. Mae’n debygol y bydd y fframwaith yn cael ei ail-lansio yn 2014, gan fod hyn yn cyd-ddigwydd â 10-mlwyddiant symud i broffesiwn nyrsio cyn-cofrestru lle mae pawb yn raddedigion yng Nghymru.

 

14.  Gwaith Proffesiynoldeb

     Yn 2011, yn dilyn cyhoeddi adroddiadau a oedd yn tynnu sylw at fethiannau mewn gofal, megis y rheini gan Gymdeithas y Cleifion a Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, comisiynodd y Prif Swyddog Nyrsio adroddiad yn benodol i archwilio proffesiynoldeb nyrsio yng Nghymru.

Cafodd yr adroddiad ei gydgysylltu a’i ysgrifennu gan yr Athro Melanie Jasper, Prifysgol Abertawe, ac roedd yn cynnwys cyd-drafod helaeth gyda nyrsys a bydwragedd ledled Cymru. Defnyddiwyd dulliau lluosog i ymdrin â chwestiynau penodol yn yr adroddiad hwn. Cyflwynwyd yr adroddiad i’r Prif Swyddog Nyrsio ym mis Rhagfyr 2012. Gan fod i’r adroddiad oblygiadau i unigolion, gwasanaethau, addysg a llywodraeth, cylchredwyd yr adroddiad ymysg rhanddeiliaid allweddol yn gofyn am adborth ganddynt. Yn 2013, yn dilyn ymgynghori ar yr argymhellion yn yr adroddiad, nodwyd tair thema glir fel blaenoriaethau i’w datblygu yn 2014:

o   Cefnogaeth i arweinwyr proffesiynol/clinigol.

o   Proses arfarnu/datblygiad proffesiynol parhaus.

o   Goruchwyliaeth glinigol.

 

Mae cynllun prosiect wrthi’n cael ei ddatblygu gan aelod newydd o staff. Fodd bynnag, bydd nifer o ffrydiau gwaith presennol yn llywio’r gwaith o weithredu’r tri argymhelliad gan gynnwys yr adolygiad o arweiniad clinigol a gynhelir gan ddirprwy brif swyddog meddygol Llywodraeth Cymru a gwaith y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ar ailddilysu.

 

15.  Bydwreigiaeth/Gofal Mamolaeth

 

Yn dilyn gweithredu’r Weledigaeth ar gyfer Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghymru yn 2013, mae’r gweithgaredd yn canolbwyntio ar fonitro perfformiad. Mae’r Prif Swyddog Nyrsio’n cadeirio cyfarfodydd bwrdd perfformiad bob chwe mis yn unigol gyda’r saith Bwrdd Iechyd Lleol. Mae’n ofynnol i sefydliadau ddangos perfformiad mewn cymhariaeth â dangosyddion canlyniadau cenedlaethol a dulliau o fesur perfformiad i ddangos gwelliant parhaus mewn gwasanaethau mamolaeth.

 

 

Lefelau Staffio

 

16.  Lefelau Staffio Bydwreigiaeth

 

Trwy’r cyfarfodydd perffomiad ddwywaith y flwyddyn gyda Byrddau Iechyd, ceisir sicrhau bod lefelau’r gweithlu yn barod ar gyfer cydymffurfio â Birth Rate Plus. Hwn yw isafswm y lefel staffio sy’n ofynnol i wardiau mamolaeth er mwyn darparu lefelau diogel o wasanaeth.

 

17.  Lefelau Staffio Nyrsio

 

Mae ansawdd a diogelwch yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru. Er bod tystiolaeth o ofal rhagorol yn cael ei roi i lawer o gleifion bob dydd, mae’n dyngedfennol fod Llywodraeth Cymru’n sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu o ganfyddiad Ymchwiliad Francis. Disgwylir i Fyrddau Iechyd sicrhau bod eu gwasanaethau’n ddiogel ac o ansawdd uchel.

 

Mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i gynorthwyo GIG Cymru ar yr agenda hwn ac atgyfnerthwyd hyn gan y Gweinidog yn ei ymateb ym mis Gorffennaf 2013 i Ymchwiliad Francis pan ddatganodd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu’r dulliau ar gyfer penderfynu’r niferoedd iawn o nyrsys.

 

Golyga hyn hefyd gael ffyrdd o benderfynu ar y lefelau staffio iawn i ddiwallu anghenion cleifion. Bydd dull craffu ar gyfer lefelau staffio mewn lleoliadau meddygol a llawfeddygol acíwt yn cael eu rhoi ar waith fesul cam yn y flwyddyn nesaf. Bydd rhaglen o waith yn ei lle i ehangu hyn i leoliadau eraill.” (Darparu Gofal Diogel, Gofal Tosturiol, Llywodraeth Cymru 2013)

 

Nododd hefyd yn ei ymateb ddyraniad o £10 miliwn (cylchol) i gynorthwyo Byrddau Iechyd i fynd i’r afael â’r mater pwysig hwn.

 

Mae’r Prif Swyddog Nyrsio a’r Cyfarwyddwyr Gweithredol Nyrsio wedi bod yn gweithio ar lefelau staffio nyrsio mewn wardiau meddygol a llawfeddygol acíwt i oedolion ers yn gynnar yn 2012. Mae nifer o ddulliau craffu wedi cael eu profi er mwyn sicrhau’r cymysgedd iawn o sgiliau i ddiwallu anghenion y cleifion. Mae’r dull a ddewiswyd yn cael ei brofi ar hyn o bryd a bydd yn barod i gael ei gyflwyno’n raddol yng Nghymru erbyn diwedd mis Mawrth 2014.

 

Yn y cyfamser mae Byrddau Iechyd yn gweithio tuag at gyfres o egwyddorion ar gyfer lefelau staffio nyrsio. Y rhain yw:

o  Bydd doethineb proffesiynol yn cael ei ddefnyddio drwy gydol y broses gynllunio.

o  Ni ddylai sefydliadau nyrsio ar wardiau acíwt ddisgyn yn arferol yn is na 1.1 cyfwerth ag amser llawn / gwely gan gynnwys 26.9% ychwanegol wrth gefn (i ganiatáu ar gyfer gwyliau blynyddol, hyfforddiant etc).

o  Mewn meysydd arbenigol a wardiau gyda gwasanaethau trydyddol, dylid defnyddio safonau proffesiynol, canllawiau a fframweithiau cenedlaethol i benderfynu ar lefelau staffio nyrsio ee Safonau Cenedlaethol Staffio Nyrsio Strôc (2007), Gofynion Ansawdd ar gyfer Gofal Critigol Oedolion yng Nghymru (2006) etc.

o  Ni ddylai’r niferoedd o gleifion i bob Nyrs Gofrestredig fod yn fwy na 7 y diwrnod.

o  Dylai’r cymysgedd sgiliau o Nyrsys Cofrestredig i Weithwyr Nyrsio Cynorthwyol mewn meysydd acíwt fod yn 60/40 yn gyffredinol.

o  Ni ddylid cynnwys y Brif Nyrs Ward yn y niferoedd wrth gyfrifo cleifion i bob Nyrs Gofrestredig.

 

Mae blaenoriaethu gwaith ar ddulliau craffu mewn meysydd clinigol eraill hefyd wedi cael ei arwain gan y Cyfarwyddwyr Nyrsio a’r Prif Swyddog Nyrsio trwy eu fforwm. Mae gwaith ar flaenoriaethau wedi cael ei ddirprwyo i amrywiol grwpiau.

 

Yn 2014/15 mae’r blaenoriaethau canlynol wedi cael eu pennu ar gyfer datblygu dulliau craffu ar lefelau nyrsio.

1.      Amgylcheddau acíwt i gleifion mewnol sy’n oedolion.

2.      Amgylcheddau cymunedol (nyrsys ardal ac ymwelwyr iechyd yn bennaf).

3.      Amgylcheddau cleifion mewnol iechyd meddwl.

 

Mae gan bob grŵp Gyfarwyddwr Nyrsio Gweithredol fel noddwr. Y disgwyl yw, unwaith y bydd y dull craffu’n mynd yn fyw ym maes acíwt oedolion ym mis Ebrill 2014, y bydd meysydd clinigol eraill yn gofyn am ddatblygu dull o’r fath. Felly cafodd blaenoriaethu ar gyfer meysydd eraill ei ystyried ym mis Mawrth 2013 a phenderfynwyd mai adrannau argyfwng, pediatreg, anabledd dysgu a nyrsio newyddanedig fyddai’r meysydd nesaf ar gyfer datblygu dulliau craffu.